ATODLEN 23DIWYGIADAU I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016
I1I266
O flaen adran 188 (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.) mewnosoder—
187ACymhwyso i’r Goron at ddibenion Treth Trafodiadau Tir
1
I’r graddau y mae darpariaethau canlynol y Ddeddf hon yn gymwys i dreth trafodiadau tir, maent yn rhwymo’r Goron—
a
Rhan 3;
b
Rhan 4 (ac eithrio Pennod 6);
c
Rhan 6 (ac eithrio adrannau 157A, 160 a 161(2)(b));
d
Rhan 7 (ac eithrio adrannau 168, 169 a 170);
e
Rhan 8 (ac eithrio adrannau 172(1)(d) ac (e), (3)(b) ac (c), (4), (5) a (6), 182 a 183);
f
adrannau 190 a 191.
2
Ond nid yw Rhan 4 yn gymwys i Ei Mawrhydi fel unigolyn preifat (o fewn ystyr adran 38(3) o Ddeddf Achosion yn erbyn y Goron 1947 (p. 44)).