xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 23LL+CDIWYGIADAU I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016

66LL+CO flaen adran 188 (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.) mewnosoder—

187ACymhwyso i’r Goron at ddibenion Treth Trafodiadau Tir

(1)I’r graddau y mae darpariaethau canlynol y Ddeddf hon yn gymwys i dreth trafodiadau tir, maent yn rhwymo’r Goron—

(a)Rhan 3;

(b)Rhan 4 (ac eithrio Pennod 6);

(c)Rhan 6 (ac eithrio adrannau 157A, 160 a 161(2)(b));

(d)Rhan 7 (ac eithrio adrannau 168, 169 a 170);

(e)Rhan 8 (ac eithrio adrannau 172(1)(d) ac (e), (3)(b) ac (c), (4), (5) a (6), 182 a 183);

(f)adrannau 190 a 191.

(2)Ond nid yw Rhan 4 yn gymwys i Ei Mawrhydi fel unigolyn preifat (o fewn ystyr adran 38(3) o Ddeddf Achosion yn erbyn y Goron 1947 (p. 44)).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 23 para. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 23 para. 66 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3