ATODLEN 23DIWYGIADAU I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016
I1I268
Yn adran 190 (dyroddi hysbysiadau gan ACC)—
a
yn is-adran (1), yn lle “y Ddeddf hon, neu mewn rheoliadau a wneir oddi tani,” rhodder “Neddfau Trethi Cymru, neu mewn rheoliadau a wneir oddi tanynt,”;
b
ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
1A
Rhaid i hysbysiad bennu’r dyddiad y’i dyroddir.
1B
Os na all y person y dyroddir yr hysbysiad iddo ganfod yn rhesymol effaith yr hysbysiad oherwydd camgymeriad ynddo neu hepgoriad ohono (gan gynnwys camgymeriad neu hepgoriad sy’n ymwneud ag enw’r person), mae’r hysbysiad i’w drin fel pe na bai wedi ei ddyroddi.