xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 17)

ATODLEN 3LL+CTRAFODIADAU SY’N ESEMPT RHAG CODI TRETH ARNYNT

Dim cydnabyddiaeth drethadwyLL+C

1Mae trafodiad tir yn esempt rhag codi treth arno os nad oes unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad (ond gweler adran 22 (gwerth marchnadol tybiedig)).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Caffaeliadau gan y GoronLL+C

2Mae trafodiad tir yn esempt rhag codi treth arno pan fo’r prynwr oddi tano yn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru;

(b)un o Weinidogion y Goron;

(c)Gweinidogion yr Alban;

(d)adran yng Ngogledd Iwerddon;

(e)Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

(f)Swyddog Corfforaethol Tŷ’r Arglwyddi;

(g)Swyddog Corfforaethol Tŷ’r Cyffredin;

(h)Corff Corfforaethol Senedd yr Alban;

(i)Comisiwn Cynulliad Gogledd Iwerddon.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trafodiadau mewn cysylltiad ag ysgariad etc.LL+C

3Mae trafodiad rhwng un parti i briodas a’r llall (pa un a yw’r briodas yn dal mewn bod ar adeg y trafodiad ai peidio) yn esempt rhag codi treth arno os rhoddir effaith iddo—

(a)yn unol â gorchymyn llys a wneir wrth ganiatáu [F1 gorchymyn neu archddyfarniad ar gyfer diddymiad neu ddirymiad y briodas ] neu ymwahaniad cyfreithiol mewn cysylltiad â’r partïon;

(b)yn unol â gorchymyn llys a wneir mewn cysylltiad â diddymiad neu ddirymiad y briodas, neu ymwahaniad cyfreithiol y partïon, ar unrhyw adeg ar ôl caniatáu [F2gorchymyn neu ] archddyfarniad o’r fath fel y crybwyllir ym mharagraff (a);

(c)yn unol â—

(i)gorchymyn llys a wneir ar unrhyw adeg o dan adran 22A, 23A neu 24A o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 (p. 18), neu

(ii)gorchymyn llys atodol a wneir o dan adran 8(2) o Ddeddf Cyfraith Teulu (Yr Alban) 1985 (p. 37) yn rhinwedd adran 14(1) o’r Ddeddf honno;

(d)ar unrhyw adeg yn unol â chytundeb y partïon a wneir gan ddisgwyl diddymiad neu ddirymiad y briodas, eu hymwahaniad cyfreithiol neu wneud gorchymyn gwahanu mewn cysylltiad â hwy, neu fel arall mewn cysylltiad â hynny.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trafodiadau mewn cysylltiad â diddymiad partneriaeth sifil etc.LL+C

4Mae trafodiad rhwng un parti i bartneriaeth sifil a’r llall (pa un a yw’r bartneriaeth sifil yn dal mewn bod ar adeg y trafodiad ai peidio) yn esempt rhag codi treth arno os rhoddir effaith iddo—

(a)yn unol â gorchymyn llys a wneir wrth ganiatáu gorchymyn neu archddyfarniad mewn cysylltiad â’r partïon ar gyfer diddymiad neu ddirymiad y bartneriaeth sifil neu eu hymwahaniad cyfreithiol;

(b)yn unol â gorchymyn llys a wneir mewn cysylltiad â diddymiad neu ddirymiad y bartneriaeth sifil, neu ymwahaniad cyfreithiol y partïon, ar unrhyw adeg ar ôl caniatáu gorchymyn neu archddyfarniad o’r fath fel y crybwyllir ym mharagraff (a);

(c)yn unol â—

(i)gorchymyn llys a wneir ar unrhyw adeg o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) sy’n cyfateb i adran 22A, 23A neu 24A o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 (p. 18), neu

(ii)gorchymyn llys atodol a wneir o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) sy’n cyfateb i adran 8(2) o Ddeddf Cyfraith Teulu (Yr Alban) 1985 (p. 37) yn rhinwedd adran 14(1) o’r Ddeddf 1985 honno;

(d)ar unrhyw adeg yn unol â chytundeb y partïon a wneir gan ddisgwyl diddymiad neu ddirymiad y bartneriaeth sifil, eu hymwahaniad cyfreithiol neu wneud gorchymyn gwahanu mewn cysylltiad â hwy, neu fel arall mewn cysylltiad â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I8Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cydsyniadau a pherchnogiadau gan gynrychiolwyr personolLL+C

5(1)Mae caffael eiddo gan berson wrth ddiwallu hawlogaeth y person o dan neu mewn perthynas ag ewyllys person ymadawedig, neu tuag at hynny, neu ar ddiewyllysedd person ymadawedig, yn esempt rhag codi treth arno.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r person sy’n caffael yr eiddo yn rhoi unrhyw gydnabyddiaeth amdano, ac eithrio ysgwyddo dyled sicredig.

(3)Pan na fo is-baragraff (1) yn gymwys oherwydd is-baragraff (2), pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn unol â pharagraff 9(1) o Atodlen 4.

(4)Yn y paragraff hwn—

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I10Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Amrywio gwarediadau testamentaidd etc.LL+C

6(1)Pan fydd person yn marw, mae trafodiad sy’n amrywio gwarediad eiddo (pa un a roddir effaith iddo gan ewyllys, o dan y gyfraith mewn perthynas â diewyllysedd neu fel arall) yr oedd yr ymadawedig yn gymwys i’w waredu yn esempt rhag codi treth arno os bodlonir yr amodau a ganlyn.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod y trafodiad yn cael ei gyflawni o fewn y cyfnod o ddwy flynedd ar ôl marwolaeth person, a

(b)na roddir unrhyw gydnabyddiaeth ariannol na chyfwerth ariannol ar ei gyfer ac eithrio amrywio gwarediad arall o’r fath.

(3)Pan na fo’r amod yn is-baragraff (2)(b) wedi ei gyflawni, pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn unol â pharagraff 9(3) o Atodlen 4.

(4)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pa un a yw gweinyddiad yr ystad wedi ei gwblhau ai peidio neu pa un a yw’r eiddo wedi ei ddosbarthu yn unol â’r gwarediadau gwreiddiol ai peidio.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I12Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Pŵer i ychwanegu, i dynnu ymaith neu i amrywio esemptiadauLL+C

7Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r Atodlen hon er mwyn—

(a)darparu i drafodiad tir o unrhyw ddisgrifiad arall fod yn esempt rhag codi treth arno;

(b)darparu nad yw disgrifiad o drafodiad tir yn esempt rhag codi treth arno mwyach;

(c)amrywio disgrifiad o drafodiad tir sy’n esempt rhag codi treth arno.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I14Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3