ATODLEN 4CYDNABYDDIAETH DRETHADWY
I1I210Cyfnewid symiau mewn arian tramor
1
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at swm neu werth y gydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad yn gyfeiriadau at ei swm neu ei gwerth mewn sterling.
2
At ddibenion y Ddeddf, hon mae gwerth sterling cyfatebol swm a fynegir mewn arian arall i’w ganfod drwy gyfeirio at gyfradd gyfnewid derfynol Llundain ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (oni bai bod y partïon wedi defnyddio cyfradd wahanol at ddibenion y trafodiad).