xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
10(1)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at swm neu werth y gydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad yn gyfeiriadau at ei swm neu ei gwerth mewn sterling.
(2)At ddibenion y Ddeddf, hon mae gwerth sterling cyfatebol swm a fynegir mewn arian arall i’w ganfod drwy gyfeirio at gyfradd gyfnewid derfynol Llundain ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (oni bai bod y partïon wedi defnyddio cyfradd wahanol at ddibenion y trafodiad).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3