ATODLEN 4CYDNABYDDIAETH DRETHADWY

I1I211Gwneud gwaith

1

Pan fo’r holl gydnabyddiaeth neu ran o’r gydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad tir ar ffurf gwneud gwaith adeiladu, gwella neu drwsio adeilad neu waith arall i gynyddu gwerth tir, yna—

a

i’r graddau y bodlonir yr amodau a bennir yn is-baragraff (2), nid yw gwerth y gwaith yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy, a

b

i’r graddau na fodlonir yr amodau hynny, mae gwerth y gwaith i’w ystyried fel cydnabyddiaeth drethadwy.

2

Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—

a

y gwneir y gwaith ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith,

b

y gwneir y gwaith ar dir a gaffaelir neu sydd i’w gaffael o dan y trafodiad neu ar dir arall a ddelir gan y prynwr neu gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, ac

c

nad yw’n un o amodau’r trafodiad bod y gwerthwr neu berson sy’n gysylltiedig â’r gwerthwr yn gwneud y gwaith.

3

Pan fo, yn rhinwedd—

a

adran 10(5) (contract a throsglwyddo), neu

b

paragraff 20 o Atodlen 6 (cytundeb ar gyfer les),

ddau drafodiad hysbysadwy (gyda’r contract neu’r cytundeb yn drafodiad cyntaf a’r trafodiad y rhoddir effaith iddo wrth gwblhau neu, yn ôl y digwydd, roi’r les, yn ail drafodiad), caiff yr amod yn is-baragraff (2)(a) ei drin fel pe bai wedi ei fodloni mewn perthynas â’r ail drafodiad os bodlonir ef mewn perthynas â’r cyntaf.

4

Yn y paragraff hwn—

a

mae cyfeiriadau at gaffael tir yn gyfeiriadau at gaffael prif fuddiant ynddo;

b

cymerir mai gwerth y gwaith yw’r swm y byddai’n rhaid ei dalu ar y farchnad agored am wneud y gwaith o dan sylw, ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (gan gynnwys unrhyw dreth ar werth a fyddai i’w chodi mewn cysylltiad â gwneud y gwaith).

5

Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 18 (trefniadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus neu addysgol).