Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Gwneud gwaithLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

11(1)Pan fo’r holl gydnabyddiaeth neu ran o’r gydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad tir ar ffurf gwneud gwaith adeiladu, gwella neu drwsio adeilad neu waith arall i gynyddu gwerth tir, yna—

(a)i’r graddau y bodlonir yr amodau a bennir yn is-baragraff (2), nid yw gwerth y gwaith yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy, a

(b)i’r graddau na fodlonir yr amodau hynny, mae gwerth y gwaith i’w ystyried fel cydnabyddiaeth drethadwy.

(2)Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—

(a)y gwneir y gwaith ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith,

(b)y gwneir y gwaith ar dir a gaffaelir neu sydd i’w gaffael o dan y trafodiad neu ar dir arall a ddelir gan y prynwr neu gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, ac

(c)nad yw’n un o amodau’r trafodiad bod y gwerthwr neu berson sy’n gysylltiedig â’r gwerthwr yn gwneud y gwaith.

(3)Pan fo, yn rhinwedd—

(a)adran 10(5) (contract a throsglwyddo), neu

(b)paragraff 20 o Atodlen 6 (cytundeb ar gyfer les),

ddau drafodiad hysbysadwy (gyda’r contract neu’r cytundeb yn drafodiad cyntaf a’r trafodiad y rhoddir effaith iddo wrth gwblhau neu, yn ôl y digwydd, roi’r les, yn ail drafodiad), caiff yr amod yn is-baragraff (2)(a) ei drin fel pe bai wedi ei fodloni mewn perthynas â’r ail drafodiad os bodlonir ef mewn perthynas â’r cyntaf.

(4)Yn y paragraff hwn—

(a)mae cyfeiriadau at gaffael tir yn gyfeiriadau at gaffael prif fuddiant ynddo;

(b)cymerir mai gwerth y gwaith yw’r swm y byddai’n rhaid ei dalu ar y farchnad agored am wneud y gwaith o dan sylw, ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (gan gynnwys unrhyw dreth ar werth a fyddai i’w chodi mewn cysylltiad â gwneud y gwaith).

(5)Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 18 (trefniadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus neu addysgol).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3