xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 4LL+CCYDNABYDDIAETH DRETHADWY

Darparu gwasanaethauLL+C

12(1)Pan fo’r holl gydnabyddiaeth neu ran o’r gydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad tir ar ffurf darparu gwasanaethau (ac eithrio gwneud gwaith y mae paragraff 11 yn gymwys iddo), cymerir mai gwerth y gydnabyddiaeth honno yw’r swm y byddai’n rhaid ei dalu ar y farchnad agored ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith er mwyn cael y gwasanaethau hynny.

(2)Mae’r swm hwnnw yn cynnwys unrhyw dreth ar werth a fyddai i’w chodi mewn cysylltiad â darparu’r gwasanaethau.

(3)Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 18 (trefniadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus neu addysgol).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3