ATODLEN 4LL+CCYDNABYDDIAETH DRETHADWY

Trafodiad tir yr ymrwymir iddo o ganlyniad i gyflogaethLL+C

13Pan ymrwymir i drafodiad tir o ganlyniad i gyflogaeth y prynwr, neu gyflogaeth person sy’n gysylltiedig â’r prynwr, yna—

(a)os yw’r trafodiad yn arwain at godi treth o dan Bennod 5 o Ran 3 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1) (buddion trethadwy: llety preswyl) ac—

(i)nad oes unrhyw rent yn daladwy gan y prynwr, neu

(ii)bod y rhent sy’n daladwy gan y prynwr yn llai na swm cyfwerth ag arian parod y budd wedi ei gyfrifo o dan adran 105 neu 106 o’r Ddeddf honno,

cymerir bod swm yn daladwy gan y prynwr fel rhent sy’n hafal â’r swm cyfwerth ag arian parod sydd i’w godi o dan yr adrannau hynny;

(b)pe bai’r trafodiad yn arwain at godi treth o dan y Bennod honno oni bai am adran 99 o’r Ddeddf honno (llety a ddarperir am gyflawni dyletswyddau), y gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad yw’r gydnabyddiaeth wirioneddol (os oes un);

(c)os nad yw paragraff (a) na pharagraff (b) yn gymwys, cymerir nad yw’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad yn ddim llai na gwerth marchnadol testun y trafodiad ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3