ATODLEN 4CYDNABYDDIAETH DRETHADWY
I1I215Prynwr yn agored i dalu treth etifeddiant
Pan fo—
a
trafodiad tir—
i
yn drosglwyddiad gwerth o fewn adran 3 o Ddeddf Treth Etifeddiant 1984 (p. 51) (trosglwyddiadau gwerth), neu
ii
yn warediad, y rhoddir effaith iddo gan ewyllys neu o dan y gyfraith diewyllysedd, o fuddiant trethadwy a gynhwyswyd yn ystad person yn union cyn iddo farw,
a
b
y prynwr yn agored i dalu neu’n dod yn agored i dalu, yn cytuno i dalu neu’n talu mewn gwirionedd unrhyw dreth etifeddiant sy’n ddyledus mewn perthynas â’r trosglwyddiad neu’r gwarediad,
nid yw atebolrwydd, cytundeb na thaliad y prynwr yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad.