Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Prynwr yn agored i dalu treth etifeddiantLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

15Pan fo—

(a)trafodiad tir—

(i)yn drosglwyddiad gwerth o fewn adran 3 o Ddeddf Treth Etifeddiant 1984 (p. 51) (trosglwyddiadau gwerth), neu

(ii)yn warediad, y rhoddir effaith iddo gan ewyllys neu o dan y gyfraith diewyllysedd, o fuddiant trethadwy a gynhwyswyd yn ystad person yn union cyn iddo farw,

a

(b)y prynwr yn agored i dalu neu’n dod yn agored i dalu, yn cytuno i dalu neu’n talu mewn gwirionedd unrhyw dreth etifeddiant sy’n ddyledus mewn perthynas â’r trosglwyddiad neu’r gwarediad,

nid yw atebolrwydd, cytundeb na thaliad y prynwr yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 4 para. 15 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3