ATODLEN 4CYDNABYDDIAETH DRETHADWY
I1I216Prynwyr yn agored i dreth ar enillion cyfalaf
1
Pan fo—
a
trafodiad tir y mae’r buddiant trethadwy o dan sylw, oddi tano—
i
yn cael ei gaffael mewn modd ac eithrio bargen a wneir hyd braich, neu
ii
yn cael ei drin gan adran 18 o Ddeddf Trethiant Enillion Trethadwy 1992 (p. 12) (trafodiadau rhwng personau cysylltiedig) fel pe bai wedi ei gaffael yn y modd hwnnw,
a
b
y prynwr yn agored i dalu neu’n dod yn agored i dalu, neu’n talu mewn gwirionedd, unrhyw dreth ar enillion cyfalaf sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gwarediad cyfatebol o’r buddiant trethadwy,
nid yw atebolrwydd neu daliad y prynwr yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad.
2
Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os oes cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad (gan ddiystyru’r atebolrwydd neu’r taliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b)).