ATODLEN 4CYDNABYDDIAETH DRETHADWY
I1I24Dosrannu teg a rhesymol
1
At ddibenion y Ddeddf hon, mae cydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli—
a
i ddau drafodiad tir neu ragor,
b
yn rhannol i drafodiad tir ac yn rhannol i fater arall, neu
c
yn rhannol i faterion sy’n ei gwneud yn gydnabyddiaeth drethadwy ac yn rhannol i faterion eraill,
i’w dosrannu ar sail deg a rhesymol.
2
Os na chaiff y gydnabyddiaeth ei dosrannu felly, mae’r Ddeddf hon yn cael effaith fel pe bai wedi ei dosrannu felly.
3
At ddibenion y paragraff hwn, mae unrhyw gydnabyddiaeth a roddir am yr hyn sydd, yn ei hanfod, yn un fargen i’w thrin fel pe bai i’w phriodoli i holl elfennau’r fargen—
a
er bod cydnabyddiaeth ar wahân yn cael ei rhoi, neu yr honnir ei bod yn cael ei rhoi, ar gyfer elfennau gwahanol o’r fargen, neu
b
er bod, neu yr honnir bod, trafodiadau ar wahân mewn cysylltiad ag elfennau gwahanol o’r fargen.