xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 4LL+CCYDNABYDDIAETH DRETHADWY

Dosrannu teg a rhesymolLL+C

4(1)At ddibenion y Ddeddf hon, mae cydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli—

(a)i ddau drafodiad tir neu ragor,

(b)yn rhannol i drafodiad tir ac yn rhannol i fater arall, neu

(c)yn rhannol i faterion sy’n ei gwneud yn gydnabyddiaeth drethadwy ac yn rhannol i faterion eraill,

i’w dosrannu ar sail deg a rhesymol.

(2)Os na chaiff y gydnabyddiaeth ei dosrannu felly, mae’r Ddeddf hon yn cael effaith fel pe bai wedi ei dosrannu felly.

(3)At ddibenion y paragraff hwn, mae unrhyw gydnabyddiaeth a roddir am yr hyn sydd, yn ei hanfod, yn un fargen i’w thrin fel pe bai i’w phriodoli i holl elfennau’r fargen—

(a)er bod cydnabyddiaeth ar wahân yn cael ei rhoi, neu yr honnir ei bod yn cael ei rhoi, ar gyfer elfennau gwahanol o’r fargen, neu

(b)er bod, neu yr honnir bod, trafodiadau ar wahân mewn cysylltiad ag elfennau gwahanol o’r fargen.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3