ATODLEN 4CYDNABYDDIAETH DRETHADWY
I1I26Darnddosbarthu etc.: diystyru buddiant presennol
Yn achos trafodiad tir sy’n rhoi effaith i ddarnddosbarthu neu rannu buddiant trethadwy y mae gan bersonau hawl iddo ar y cyd, nid yw’r gyfran o’r buddiant a ddelir gan y prynwr yn union cyn y darnddosbarthu neu’r rhannu yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy.