xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 5LL+CTRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH

Addasiadau (ddim yn newid testun)

RHAN 3LL+CPRYNWR SY’N UNIGOLYN: TRAFODIADAU ANHEDDAU LLUOSOG

Dwy annedd gymwys neu ragorLL+C

13(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw o leiaf ddwy o’r anheddau a brynir yn anheddau cymwys.

(2)Mae annedd a brynir yn annedd gymwys at ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon os yw swm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad sydd i’w briodoli ar sail deg a rhesymol i’r annedd a brynir yn £40,000 neu ragor.

(3)Ond nid yw annedd a brynir yn annedd gymwys—

(a)os yw’r annedd a brynir yn ddarostyngedig i les,

(b)os yw prif destun y trafodiad yn rifersiwn ar y les honno, ac

(c)os yw’r les yn bodloni’r amodau a nodir yn is-baragraff (4),

ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(4)Yr amodau yw—

(a)nad yw’r les yn cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a

(b)bod gan y les gyfnod o 21 o flynyddoedd yn weddill.

(5)Nid yw annedd a brynir yn annedd gymwys os yw’r eithriad a ddarperir ym mharagraff 14 yn gymwys (eithriad ar gyfer is-annedd).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 5 para. 13 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3