ATODLEN 5LL+CTRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH

RHAN 3LL+CPRYNWR SY’N UNIGOLYN: TRAFODIADAU ANHEDDAU LLUOSOG

Eithriad ar gyfer buddiant yn yr un brif breswylfaLL+C

16Nid yw paragraff 15 yn gymwys os yw prif destun y trafodiad yn brif fuddiant yn yr annedd gymwys y cyfeirir ati ym mharagraff 15(1)(a), a bod yr annedd honno yn—

(a)annedd yr oedd gan y prynwr [F1neu briod neu bartner sifil y prynwr] brif fuddiant arall ynddi, yn union cyn y dyddiad yr oedd y trafodiad yn cael effaith, a

(b)annedd sy’n unig breswylfa neu’n brif breswylfa’r prynwr, yn union cyn ac ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 5 para. 16 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3