Trafodiad sy’n ymwneud ag anheddau lluosogLL+C
21(1)Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch—
(a)os nad yw’r prynwr yn unigolyn,
(b)os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn dwy annedd neu ragor (“yr anheddau a brynir”), ac
(c)os yw o leiaf un o’r anheddau a brynir yn annedd y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddi.
(2)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i annedd a brynir os yw swm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad sydd i’w briodoli ar sail deg a rhesymol i’r annedd a brynir yn £40,000 neu ragor.
(3)Ond nid yw is-baragraff (2) yn gymwys i annedd a brynir—
(a)os yw’r annedd a brynir yn ddarostyngedig i les,
(b)os yw prif destun y trafodiad yn rifersiwn ar y les honno, ac
(c)os yw’r les yn bodloni’r amodau a nodir yn is-baragraff (4),
ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.
(4)Yr amodau yw—
(a)nad yw’r les yn cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a
(b)bod gan y les gyfnod o fwy na 21 o flynyddoedd yn weddill.
(5)Nid yw trafodiad o fewn adran 72(9) yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch ac eithrio pan fo Atodlen 13 yn gymwys (gweler yn benodol baragraff 6(6) o’r Atodlen honno).
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Atod. 5 applied (ynghyd â modifications) (1.4.2018) by Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/126), rhlau. 1(2), 12
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 5 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 5 para. 21 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3