xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 5LL+CTRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH

Addasiadau (ddim yn newid testun)

RHAN 5LL+CDARPARIAETHAU ATODOL

Priodau a phartneriaid sifil yn prynu ar eu pen eu hunainLL+C

25(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy—

(a)os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn briod neu mewn partneriaeth sifil ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith,

(b)os yw’r prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr yn cyd-fyw ar y dyddiad hwnnw, ac

(c)os nad yw priod neu bartner sifil y prynwr yn brynwr yn y trafodiad.

(2)Mae’r trafodiad i’w drin fel trafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch pe bai wedi bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch pe bai priod neu bartner sifil y prynwr wedi bod yn brynwr.

(3)Caiff unigolion sy’n briod â’i gilydd, neu’n bartneriaid sifil i’w gilydd, eu trin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe baent yn cyd-fyw oni bai—

(a)eu bod wedi gwahanu o dan orchymyn llys sydd ag awdurdodaeth gymwys,

(b)eu bod wedi gwahanu drwy weithred wahanu, neu

(c)eu bod wedi gwahanu mewn gwirionedd mewn amgylchiadau lle mae’r gwahanu yn debygol o fod yn barhaol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 5 para. 25 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3