xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 5LL+CTRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH

Addasiadau (ddim yn newid testun)

RHAN 5LL+CDARPARIAETHAU ATODOL

Setliadau ac ymddiriedolaethau noethLL+C

27(1)Mae is-baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir—

(a)os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn un annedd neu ragor,

(b)os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn gweithredu fel ymddiriedolwr setliad, ac

(c)os bydd gan fuddiolwr, o dan delerau’r setliad, hawl i—

(i)meddiannu’r annedd neu’r anheddau am oes, neu

(ii)incwm a enillir mewn cysylltiad â’r annedd neu’r anheddau.

(2)Mae is-baragraff (3) hefyd yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir—

(a)os yw prif destun y trafodiad ar ffurf cyfnod o flynyddoedd absoliwt mewn annedd, a

(b)os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn gweithredu fel ymddiriedolwr ymddiriedolaeth noeth (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraffau 2(1) a (2) o Atodlen 8).

(3)Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir, mae buddiolwr y setliad neu’r ymddiriedolaeth noeth (yn hytrach na’r ymddiriedolwr) i’w drin at ddibenion yr Atodlen hon fel y prynwr (neu fel un ohonynt).

(4)Mae paragraffau 3(3) a 4 o Atodlen 8 (trin ymddiriedolwyr fel y prynwr) yn cael effaith yn ddarostyngedig i is-baragraff (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 5 para. 27 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3