C1ATODLEN 5TRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH

Annotations:
Modifications etc. (not altering text)

C1RHAN 5DARPARIAETHAU ATODOL

I1I2C130C1Setliadau ac ymddiriedolaethau noeth

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys pe bai plentyn person (“P”) (oni bai am y paragraff hwn), oherwydd paragraff 27 neu 28 neu baragraff 3(1) o Atodlen 8 (ymddiriedolaethau noeth), yn cael ei drin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai—

a

y prynwr mewn perthynas â thrafodiad tir,

b

yn dal buddiant mewn annedd, neu

c

wedi gwaredu buddiant mewn annedd.

2

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys—

a

mae P ac unrhyw briod neu bartner sifil i P i’w trin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai neu pe baent y prynwr, yn dal y buddiant neu (yn ôl y digwydd) wedi gwaredu’r buddiant, a

b

nid yw’r plentyn i’w drin felly.

3

Nid yw is-baragraff (2)(a) yn gymwys i briod neu bartner sifil P os nad yw’r ddau ohonynt yn cyd-fyw (gweler paragraff 25(3) am ystyr hynny).

4

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

a

person (“D”) yn caffael, yn dal neu’n gwaredu prif fuddiant mewn annedd yn enw plentyn neu ar ran y plentyn,

b

D yn gwneud hynny drwy arfer pwerau a roddir i D fel dirprwy i’r plentyn, ac

c

D yn dal y buddiant hwnnw ar ymddiriedolaeth ar gyfer y plentyn, neu yn achos gwaredu, wedi ei ddal ar ymddiriedolaeth ar gyfer y plentyn.

5

Yn is-baragraff (4), ystyr “dirprwy” yw—

a

person a benodir o dan adran 16 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p. 9), neu

b

person a benodir i swydd gyfatebol o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i Gymru a Lloegr (ac felly mae’r cyfeiriad at fuddiant yn cael ei ddal ar ymddiriedolaeth gan berson o’r fath yn gyfeiriad at ei ddal ar sail gyfatebol o dan y gyfraith honno).