Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Atod. 5 applied (ynghyd â modifications) (1.4.2018) by Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/126), rhlau. 1(2), 12
31(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir—
(a)os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn un annedd neu ragor,
(b)os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn gweithredu fel ymddiriedolwr setliad,
(c)os yw’r prynwr hwnnw yn unigolyn, a
(d)os nad oes gan fuddiolwr, o dan delerau’r setliad, hawl i—
(i)meddiannu’r annedd neu’r anheddau am oes, neu
(ii)incwm a enillir mewn cysylltiad â’r annedd neu’r anheddau.
(2)Wrth benderfynu pa un a yw paragraff 20 neu 21 yn gymwys i’r trafodiad—
(a)os y prynwr a grybwyllir yn is-baragraff (1) yw’r unig brynwr, anwybydder is-baragraff (1)(a) o’r paragraffau hynny, a
(b)os nad y prynwr hwnnw yw’r unig brynwr, anwybydder is-baragraff (1)(a) o’r paragraffau hynny wrth ystyried y prynwr hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 5 para. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 5 para. 31 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3