Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

PartneriaethauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

32(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy y mae ei destun ar ffurf prif fuddiant mewn un annedd neu ragor—

(a)os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn bartner mewn partneriaeth, ond

(b)os nad yw’r prynwr yn ymrwymo i’r trafodiad at ddibenion y bartneriaeth.

(2)At ddibenion penderfynu pa un a yw paragraff 5 neu 15 yn gymwys i’r trafodiad, nid yw unrhyw brif fuddiant mewn unrhyw annedd arall a ddelir gan y bartneriaeth neu ar ei rhan at ddibenion masnach a gyflawnir gan y bartneriaeth i’w drin fel pe bai’n cael ei ddal gan y prynwr neu ar ei ran.

(3)Mae paragraff 4(1)(a) o Atodlen 7 (trin buddiannau trethadwy a ddelir gan bartneriaethau fel pe baent yn cael eu dal gan y partneriaid) yn cael effaith yn ddarostyngedig i is-baragraff (2).

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 5 para. 32 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3