ATODLEN 5LL+CTRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH

RHAN 5LL+CDARPARIAETHAU ATODOL

Prif fuddiannau mewn anheddau a gyd-etifeddirLL+C

34(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys, yn rhinwedd etifeddiant—

(a)pan fo person (“P”) yn cael hawl ar y cyd gydag un neu ragor o bersonau eraill i brif fuddiant mewn annedd, a

(b)pan na fo cyfran lesiannol P yn y buddiant yn fwy na 50% (gweler is-baragraff (4)).

(2)Nid yw P i’w drin at ddibenion paragraff 5(1)(a) neu 15(1)(b) fel pe bai ganddo’r prif fuddiant ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â dyddiad yr etifeddiant.

(3)Ond os, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw o 3 blynedd, y daw P i fod yr unig berson sydd â hawl lesiannol i’r buddiant cyfan, neu os yw cyfran lesiannol P yn y buddiant yn fwy na 50%, mae P i’w drin, o’r adeg honno, fel pe bai ganddo’r prif fuddiant at ddibenion cymhwyso paragraffau 5(1)(a) a 15(1)(b) (yn ddarostyngedig i unrhyw warediad gan P).

(4)Mae cyfran P yn y buddiant yn fwy na 50%—

(a)os oes gan P hawl lesiannol fel tenant ar y cyd neu gydetifedd i fwy na hanner y buddiant,

(b)os oes gan P a phriod neu bartner sifil P, gyda’i gilydd, hawl lesiannol i fwy na hanner y buddiant fel tenantiaid ar y cyd neu gydetifeddion, neu

(c)os oes gan P a phriod neu bartner sifil P hawl lesiannol i’r buddiant fel cyd-denantiaid, ac nad oes mwy nag un cyd-denant arall sydd â hawl o’r fath.

(5)Nid yw is-baragraff (4)(b) ac (c) yn gymwys os nad yw P a phriod neu bartner sifil P yn cyd-fyw (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”) ar y dyddiad y mae’r trafodiad y cyfeirir ato ym mharagraff 5 neu 15 yn cael effaith.

(6)Yn y paragraff hwn ystyr “etifeddiant” yw caffael buddiant mewn hawlogaeth, neu tuag at ddiwallu hawlogaeth, o dan ewyllys person ymadawedig neu mewn perthynas ag ewyllys o’r fath, neu ar ddiewyllysedd person ymadawedig.

(7)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â buddiant a gaffaelir yn dilyn marwolaeth person o ganlyniad i amrywio gwarediad (pa un ai y rhoddir effaith iddo gan ewyllys, o dan y gyfraith sy’n ymwneud â diewyllysedd, neu fel arall) eiddo a gynhwysir yn ystad y person hwnnw a wneir o fewn y cyfnod o 2 flynedd ar ôl marwolaeth y person, fel y mae’n gymwys mewn perthynas ag etifeddiant; ac mewn achos o’r fath mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (2) at ddyddiad yr etifeddiant yn golygu dyddiad caffael y buddiant yn unol â’r amrywiad.