C1ATODLEN 5TRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH
C1RHAN 2PRYNWR SY’N UNIGOLYN: TRAFODIADAU ANNEDD UNIGOL
I1I2C19C1Disodli prif breswylfa: trafodiadau yn ystod y cyfnod interim
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
pan fo’r prynwr mewn rhyng-drafodiad yn disodli prif breswylfa mewn trafodiad arall, a
b
pan fo’r rhyng-drafodiad yn cael effaith ar ddyddiad sydd yn ystod y cyfnod interim.
2
Mae rhyng-drafodiad yn drafodiad—
a
sy’n dod o fewn paragraff 3(2), a
b
nad yw paragraff 5 yn gymwys iddo.
3
Wrth benderfynu pa un a yw trafodiad yn dod o fewn paragraff 3(2) at ddibenion y paragraff hwn, mae’r cyfeiriad ym mharagraff 3(3) at ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, yn cael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at ddiwedd y dydd ar y naill neu’r llall o’r dyddiadau a ganlyn, neu’r ddau ohonynt—
a
y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith;
b
y dyddiad y daw’r cyfnod interim i ben.
4
At ddibenion y paragraff hwn, mae prynwr yn disodli prif breswylfa mewn trafodiad arall—
a
mewn perthynas ag annedd yng Nghymru, os bodlonir yr amodau a nodir ym mharagraff 8(2) mewn cysylltiad â’r trafodiad,
b
mewn perthynas ag annedd yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon, os bodlonir yr amodau a nodir ym mharagraff 3(6) o Atodlen 4ZA i Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14) mewn cysylltiad â’r trafodiad, neu
c
mewn perthynas ag annedd yn yr Alban, os bodlonir yr amodau a nodir ym mharagraff 2(2) o Atodlen 2A i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (Yr Alban) 2013 (dsa 11) mewn cysylltiad â’r trafodiad.
5
Yn y paragraff hwn, ystyr y cyfnod interim yw—
a
pan fo is-baragraff (4)(a) yn gymwys, y cyfnod—
i
sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad blaenorol yn cael effaith o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 8(2)(b), a
ii
sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 8(2)(a);
b
pan fo is-baragraff (4)(b) yn gymwys, y cyfnod—
i
sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad blaenorol, o fewn yr ystyr a roddir i “the previous transaction” gan baragraff 3(6)(b) o Atodlen 4ZA i Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14), yn cael effaith, a
ii
sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw, o fewn yr ystyr a roddir i “the transaction concerned” gan baragraff 3(6)(a) o’r Atodlen honno, yn cael effaith;
c
pan fo is-baragraff (4)(c) yn gymwys, y cyfnod—
i
sy’n dechrau â’r dyddiad y gwaredodd y prynwr berchenogaeth annedd fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff 2(2)(a) o Atodlen 2A i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (Yr Alban) 2013 (dsa 11), a
ii
sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw yn cael effaith.
6
Am ddarpariaeth bellach mewn cysylltiad â thrin rhyng-drafodiad fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch, gweler paragraff 24.
Atod. 5 applied (ynghyd â modifications) (1.4.2018) by Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/126), rhlau. 1(2), 12