11Pan fo—
(a)les yn cynnwys darpariaeth y caniateir addasu’r rhent oddi tani,
(b)o dan y ddarpariaeth honno, yr addasiad cyntaf o’r fath (neu’r unig addasiad o’r fath)—
(i)yn addasiad i swm sydd (cyn yr addasiad hwnnw) yn ansicr, a
(ii)yn cael effaith o ddyddiad (y “dyddiad adolygu”) a fynegir fel un sydd 5 mlynedd ar ôl dyddiad penodedig, ac
(c)y dyddiad penodedig o fewn y cyfnod o 3 mis cyn dechrau cyfnod y les,
mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at 5 mlynedd gyntaf cyfnod y les yn gyfeiriadau at y cyfnod sy’n dechrau â dechrau’r cyfnod ac sy’n dod i ben â’r dyddiad adolygu ac mae cyfeiriadau at bumed flwyddyn cyfnod y les i’w darllen yn unol â hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 6 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 6 para. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3