ATODLEN 6LESOEDD
RHAN 3RHENT A CHYDNABYDDIAETH ARALL
I1I216Rhwymedigaethau etc. tenantiaid nad ydynt yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy
1
Yn achos rhoi les nid oes yr un o’r canlynol yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy—
a
unrhyw ymgymeriad gan y tenant i atgyweirio, i gynnal a chadw neu i yswirio’r eiddo sydd ar les;
b
unrhyw ymgymeriad gan y tenant i dalu unrhyw swm mewn cysylltiad â gwasanaethau, atgyweiriadau, cynnal a chadw neu yswiriant neu gostau rheoli’r landlord;
c
unrhyw rwymedigaeth arall ar ran y tenant nad yw’n effeithio ar y rhent y byddai tenant yn fodlon ei dalu ar y farchnad agored;
d
unrhyw warant am dalu’r rhent neu gyflawni unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau eraill y tenant o dan y les;
e
unrhyw rent penydiol, neu rent uwch o natur rhent penydiol, sy’n daladwy mewn cysylltiad â thorri unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau’r tenant o dan y les;
f
unrhyw atebolrwydd ar ran y tenant ar gyfer costau o dan adran 14(2) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 (p. 88) neu adran 60 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) (costau i’w hysgwyddo gan berson sy’n arfer hawliau statudol i gael les);
g
unrhyw rwymedigaeth arall ar ran y tenant i ysgwyddo costau neu dreuliau rhesymol y landlord wrth roi’r les neu’n atodol i hynny;
h
unrhyw rwymedigaeth o dan y les i drosglwyddo i’r landlord, pan derfynir y les, hawliau i daliadau a roddwyd i’r tenant o dan F1gynllun y taliad sylfaenol (hynny yw, y cynllun cymorthdal incwm i ffermwyr yn unol â Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013) mewn cysylltiad â thir sy’n ddarostyngedig i’r les.
2
Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â rhwymedigaeth, nid yw taliad a wneir i gyflawni’r rhwymedigaeth yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy.
3
Nid yw gollwng rhwymedigaeth fel a grybwyllir yn is-baragraff (1) yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy mewn perthynas ag ildio’r les.