ATODLEN 6LESOEDD

RHAN 4CYTUNDEBAU AR GYFER LES, ASEINIADAU AC AMRYWIADAU

I1I220Cytundeb ar gyfer les

1

Pan fo’r canlynol yn gymwys—

a

ymrwymir i gytundeb ar gyfer les, a

b

mae’r cytundeb wedi ei gyflawni’n sylweddol ond heb ei gwblhau,

caiff y cytundeb ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n achos o roi les yn unol â’r cytundeb (“y les dybiedig”), gan ddechrau â dyddiad ei gyflawni’n sylweddol.

2

Y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith yw’r dyddiad y caiff y cytundeb ei gyflawni’n sylweddol.

3

At ddibenion y paragraff hwn mae’r cytundeb wedi ei gwblhau pan roddir les (“y les wirioneddol”) i gydymffurfio’n sylweddol â’r cytundeb.

4

Pan roddir y les wirioneddol yn dilyn hynny, caiff y les dybiedig ei thrin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n les a roddir—

a

ar ddyddiad cyflawni’r cytundeb yn sylweddol,

b

am gyfnod sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw ac sy’n dod i ben ar ddiwedd cyfnod y les wirioneddol, ac

c

yn gydnabyddiaeth am gyfanswm y rhent sy’n daladwy yn ystod y cyfnod hwnnw ac unrhyw gydnabyddiaeth arall a roddir ar gyfer y cytundeb neu’r les wirioneddol.

5

Pan fo is-baragraff (4) yn gymwys caiff rhoi’r les wirioneddol ei ddiystyru at ddibenion y Ddeddf hon ac eithrio adran 51 (ffurflen dreth neu ffurflen dreth bellach o ganlyniad i drafodiad cysylltiol diweddarach).

6

At ddibenion adran 51—

a

mae rhoi’r les dybiedig a rhoi’r les wirioneddol yn gysylltiol (pa un a fyddent yn gysylltiol yn rhinwedd adran 8 ai peidio),

b

mae’r tenant o dan y les wirioneddol (yn hytrach na’r tenant o dan y les dybiedig) yn atebol am unrhyw dreth neu dreth ychwanegol sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r les dybiedig o ganlyniad i is-baragraff (4), ac

c

mae’r cyfeiriad yn adran 51(2) at “y prynwr yn y trafodiad cynharach” i’w ddarllen, mewn perthynas â’r les dybiedig, fel cyfeiriad at y tenant o dan y les wirioneddol.

7

Pan fo—

a

is-baragraff (1) yn gymwys, a

b

o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â dyddiad cyflawni’r cytundeb yn sylweddol, y cytundeb yn cael ei ddadwneud neu ei ddirymu (i unrhyw raddau), neu oni roddir effaith iddo am unrhyw reswm arall, ac

c

o ganlyniad, y ffurflen dreth a ddychwelwyd mewn cysylltiad â’r cytundeb yn cael ei diwygio,

rhaid i ACC ad-dalu’r dreth a dalwyd yn rhinwedd yr is-baragraff hwnnw (i’r graddau hynny).

8

At ddibenion cymhwyso adran 14(1) (cyflawni’n sylweddol) i’r paragraff hwn a pharagraff 21 mae unrhyw gytundeb ar gyfer les i’w drin fel contract.