ATODLEN 6LESOEDD
RHAN 4CYTUNDEBAU AR GYFER LES, ASEINIADAU AC AMRYWIADAU
I1I223Aseinio les
1
Pan gaiff les ei haseinio, rhaid i unrhyw beth y byddai, oni bai am yr aseiniad, yn ofynnol ei wneud neu yr awdurdodid ei wneud gan yr aseiniwr neu mewn perthynas ag ef o dan neu yn rhinwedd—
a
adran 47 (digwyddiad dibynnol yn peidio, a chydnabyddiaeth yn cael ei chanfod: dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth),
b
adran 51 (ffurflen dreth neu ffurflen dreth bellach o ganlyniad i drafodiad cysylltiol diweddarach),
c
paragraff 3 neu 5 o’r Atodlen hon (ffurflen dreth neu ffurflen dreth bellach yn ofynnol pan fo les cyfnod penodol neu gyfnod amhenodol yn parhau), neu
d
paragraffau 12, 13 a 14 o’r Atodlen hon (addasiad pan fo rhent yn peidio â bod yn ansicr),
gael ei wneud yn lle hynny gan yr aseinai neu mewn perthynas ag ef, os yw’r digwyddiad sy’n arwain at yr addasiad neu at ddychwelyd y ffurflen dreth yn codi ar ôl y dyddiad y mae’r aseiniad yn cael effaith.
2
I’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol er mwyn rhoi effaith i is-baragraff (1) mae unrhyw beth a wnaed yn flaenorol gan yr aseiniwr neu mewn perthynas ag ef i’w drin fel pe bai wedi ei wneud gan yr aseinai neu mewn perthynas ag ef.
3
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys os caiff yr aseiniad ei drin fel rhoi les gan yr aseiniwr (gweler paragraff 22).