Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Trin cynnydd mewn rhent fel rhoi les newydd: amrywio les yn ystod y 5 mlynedd gyntafLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

25(1)Pan gaiff les ei hamrywio fel bod swm y rhent yn cynyddu o ddyddiad cyn diwedd pumed flwyddyn cyfnod y les, caiff yr amrywiad ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n achos o roi les yn gydnabyddiaeth am y rhent ychwanegol a wnaed yn daladwy ganddo.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i gynnydd mewn rhent yn unol ag—

(a)darpariaeth a gynhwyswyd yn y les cyn ei hamrywio, neu

(b)darpariaeth a grybwyllir ym mharagraff 10(6)(a) neu (b) (amrywiadau i lesoedd amaethyddol penodol).

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 6 para. 25 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3