ATODLEN 6LESOEDD
RHAN 2HYD LES A THRIN LESOEDD SY’N GORGYFFWRDD
I1I23Lesoedd sy’n parhau ar ôl cyfnod penodol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i—
a
les a roddir am gyfnod penodol ac wedi hynny hyd y caiff ei therfynu, neu
b
les a roddir am gyfnod penodol a all barhau y tu hwnt i’r cyfnod penodol yn sgil gweithredu’r gyfraith.
2
At ddibenion y Ddeddf hon (ac eithrio adran 46 (trafodiadau hysbysadwy: eithriadau)) caiff les y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddi ei thrin—
a
yn y lle cyntaf fel pe bai’n les am y cyfnod penodol gwreiddiol a dim mwy na hynny;
b
os yw’r les yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, fel pe bai’n les am gyfnod penodol sydd flwyddyn yn hwy na’r cyfnod penodol gwreiddiol;
c
os yw’r les yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod yn sgil cymhwyso paragraff (b), fel pe bai’n les cyfnod penodol sydd ddwy flynedd yn hwy na’r cyfnod penodol gwreiddiol,
ac yn y blaen (ond gweler is-baragraff (5)).
3
At ddibenion adran 46 (trafodiadau hysbysadwy: eithriadau) caiff les y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddi ei thrin fel pe bai wedi ei rhoi am gyfnod sy’n cyfateb i’r cyfnod penodol gwreiddiol.
4
Pan fo—
a
les yn cael ei thrin, yn rhinwedd is-baragraff (2), fel pe bai’n parhau am gyfnod hwy na’r cyfnod penodol gwreiddiol, a
b
o ganlyniad, treth ychwanegol yn daladwy mewn cysylltiad â thrafodiad tir neu dreth yn daladwy mewn cysylltiad â thrafodiad tir pan nad oedd dim yn daladwy cyn hynny,
rhaid i’r prynwr ddychwelyd ffurflen dreth neu ffurflen dreth bellach (gan gynnwys hunanasesiad) mewn cysylltiad â’r trafodiad tir cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod y caiff y les ei thrin fel pe bai’n parhau hyd-ddo.
5
O ran les—
a
pe câi ei thrin, yn rhinwedd is-baragraff (2), fel pe bai’n parhau am gyfnod (neu gyfnod pellach) o flwyddyn, ond
b
pan fo’n terfynu mewn gwirionedd ar adeg yn ystod y cyfnod hwnnw o flwyddyn,
nid yw’r les i’w thrin fel pe bai’n parhau o dan is-baragraff (2) ond hyd iddi derfynu; ac mae is-baragraff (4) yn gymwys yn unol â hynny.
6
Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraffau 4 ac 8 (rhent o dan les sy’n parhau i’w drin fel rhent o dan les newydd).