Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Treth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ar wahân i rent: lesoedd cymysgLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

35(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn achos caffael les gymysg pan fo—

(a)cydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent, a

(b)y rhent perthnasol sydd i’w briodoli i’r tir nad yw’n eiddo preswyl, ar sail dosraniad teg a rhesymol, yn cyfateb i’r swm penodedig o leiaf.

(2)At ddibenion pennu swm y dreth sydd i’w godi mewn perthynas â’r gydnabyddiaeth ar wahân i rent, caiff y trafodiad (neu os yw’n un o gyfres o drafodiadau cysylltiol, y set honno o drafodiadau) ei drin (neu ei thrin) fel pe bai’n ddau drafodiad ar wahân ond cysylltiol (neu’n ddwy set ar wahân o drafodiadau cysylltiol sydd eu hunain yn gysylltiol) sef—

(a)un y mae ei destun yn cynnwys yr holl dir sy’n eiddo preswyl (ac mae adran 28 (swm y dreth sydd i’w godi: trafodiadau cysylltiol) yn gymwys yn unol â hynny), a

(b)un y mae ei destun yn cynnwys yr holl dir nad yw’n eiddo preswyl (ac mae’r adran honno fel y’i diwygiwyd gan baragraff 34 yn gymwys yn unol â hynny).

(3)At y diben hwnnw, y gydnabyddiaeth drethadwy sydd i’w phriodoli i bob un o’r trafodiadau (neu setiau o drafodiadau cysylltiol) ar wahân hynny yw’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd i’w phriodoli ar sail deg a rhesymol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 6 para. 35 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3