ATODLEN 6LESOEDD
RHAN 2HYD LES A THRIN LESOEDD SY’N GORGYFFWRDD
I1I25Lesoedd am gyfnod amhenodol
1
At ddibenion y Ddeddf hon (ac eithrio adran 46 (trafodiadau hysbysadwy: eithriadau))—
a
caiff les cyfnod amhenodol ei thrin yn y lle cyntaf fel pe bai’n les am gyfnod penodol o flwyddyn;
b
os yw’r les yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod sy’n deillio o gymhwyso paragraff (a), caiff ei thrin fel pe bai’n les am gyfnod penodol o 2 flynedd;
c
os yw’r les yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod sy’n deillio o gymhwyso paragraff (b), caiff ei thrin fel pe bai’n les am gyfnod penodol o 3 blynedd,
ac yn y blaen.
2
Ond—
a
pan gaiff les ei thrin, yn rhinwedd is-baragraff (1), fel pe bai’n les am gyfnod penodol o 2 flynedd neu ragor, a
b
pan fo’n terfynu mewn gwirionedd cyn diwedd y cyfnod penodol hwnnw,
nid yw’r les i’w thrin fel pe bai’n parhau o dan is-baragraff (1) ond hyd iddi derfynu; ac mae is-baragraff (5) yn gymwys yn unol â hynny.
3
At ddibenion adran 46 (trafodiadau hysbysadwy: eithriadau) caiff les cyfnod amhenodol ei thrin fel pe bai wedi ei rhoi am gyfnod o lai na 7 mlynedd.
4
At ddibenion y Ddeddf hon, rhaid diystyru unrhyw ddeddfiad arall sy’n tybio bod les cyfnod amhenodol yn les am gyfnod gwahanol.
5
Pan fo—
a
les yn cael ei thrin, yn rhinwedd is-baragraff (1), fel pe bai’n les cyfnod penodol,
b
y les yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw ac felly yn cael ei thrin fel pe bai’n les am gyfnod penodol hwy, ac
c
o ganlyniad i’r ffaith fod y les yn parhau, treth ychwanegol yn daladwy mewn cysylltiad â thrafodiad tir neu dreth yn daladwy mewn cysylltiad â thrafodiad tir pan nad oedd dim yn daladwy cyn hynny,
rhaid i’r prynwr ddychwelyd ffurflen dreth neu ffurflen dreth bellach (gan gynnwys hunanasesiad) mewn cysylltiad â’r trafodiad tir cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod penodol hwy y caiff y les ei thrin fel pe bai’n parhau hyd-ddo.
6
O ran les—
a
pan gaiff ei thrin, yn rhinwedd is-baragraff (1), fel pe bai’n les am gyfnod penodol o flwyddyn,
b
pan fo’n terfynu mewn gwirionedd cyn diwedd y cyfnod penodol hwnnw, ac
c
pe byddai’r les wedi ei rhoi am gyfnod penodol sy’n terfynu ar y dyddiad y mae’n terfynu mewn gwirionedd, byddai llai o dreth i’w chodi na’r swm a aseswyd felly ar y ffurflen dreth a ddychwelwyd mewn cysylltiad â rhoi’r les,
caiff y prynwr, o fewn y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth, ei diwygio yn unol â hynny (gweler adran 41 o DCRhT am ddarpariaeth ynghylch diwygio ffurflenni treth).