ATODLEN 6LESOEDD
RHAN 2HYD LES A THRIN LESOEDD SY’N GORGYFFWRDD
I1I26Lesoedd cysylltiol olynol
1
At ddibenion y Ddeddf hon caiff cyfres o lesoedd cysylltiol ei thrin fel un les—
a
a roddwyd ar adeg rhoi’r les gyntaf yn y gyfres,
b
am gyfnod sy’n cyfateb i gyfnodau’r holl lesoedd gyda’i gilydd, ac
c
yn gydnabyddiaeth am y rhent sy’n daladwy o dan yr holl lesoedd.
2
Mae dwy les neu ragor yn ffurfio “cyfres o lesoedd cysylltiol” os ydynt—
a
yn lesoedd olynol a roddir neu a gaiff eu trin fel pe baent wedi eu rhoi (boed ar yr un pryd neu ar adegau gwahanol) ar gyfer yr un eiddo, neu’r un eiddo i raddau helaeth, a
b
yn drafodiadau cysylltiol.
3
Yn unol â hynny caiff rhoi lesoedd diweddarach yn y gyfres ei ddiystyru at ddibenion y Ddeddf hon oni bai am adran 51 (ffurflen dreth neu ffurflen dreth bellach o ganlyniad i drafodiad cysylltiol diweddarach).