xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 6LL+CLESOEDD

RHAN 2LL+CHYD LES A THRIN LESOEDD SY’N GORGYFFWRDD

Tenant yn dal drosodd: ôl-ddyddio les newydd i flwyddyn flaenorolLL+C

8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo’r tenant o dan les (“yr hen les”) yn parhau i feddiannu ar ôl y dyddiad y mae’r les, o dan ei thelerau, yn terfynu (“y dyddiad terfynu contractiol”),

(b)pan roddir les i’r tenant ar gyfer yr un eiddo, neu’r un eiddo i raddau helaeth (“y les newydd”),

(c)pan roddir y les newydd ar ddyddiad sydd fwy na blwyddyn ar ôl y dyddiad terfynu contractiol, a

(d)pan fynegir bod cyfnod y les newydd yn dechrau ar ddyddiad sydd o fewn y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r dyddiad terfynu contractiol, a

(ii)sy’n dod i ben â blwydd-ddydd diweddaraf y dyddiad hwnnw sydd cyn y dyddiad y rhoddir y les newydd,

(“y blynyddoedd dal drosodd cyfan”).

(2)Caiff cyfnod y les newydd ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n dechrau â’r dyddiad y mynegir ei fod yn dechrau.

(3)Caiff y rhent sy’n daladwy o dan y les newydd mewn cysylltiad â’r cyfnod—

(a)sy’n dechrau â’r dyddiad y mynegir bod y les newydd yn dechrau, a

(b)sy’n dod i ben ar ddiwedd y blynyddoedd dal drosodd cyfan,

ei drin, at ddibenion y Ddeddf hon, fel pe bai wedi ei ostwng gan swm y rhent trethadwy sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r denantiaeth dal drosodd ar gyfer y cyfnod hwnnw (ond ni ellir ei drin fel pe bai wedi ei ostwng i swm negyddol).

(4)Caiff y denantiaeth dal drosodd ei thrin at ddibenion y Ddeddf hon fel les cyfnod penodol sy’n dod i ben ar ddiwedd y blynyddoedd dal drosodd cyfan.

(5)At ddibenion y paragraff hwn—

(a)“tenantiaeth dal drosodd” yw—

(i)yr hen les os yw’n parhau y tu hwnt i’r dyddiad terfynu contractiol (boed yn rhinwedd rhoi’r les am gyfnod penodol ac wedi hynny hyd y’i terfynir neu yn sgil gweithredu’r gyfraith), neu

(ii)unrhyw denantiaeth arall ar gyfer yr un eiddo, neu’r un eiddo i raddau helaeth, y mae’r tenant o dan yr hen les yn parhau i’w feddiannu ar ôl y dyddiad terfynu contractiol yn rhinwedd y denantiaeth;

(b)mae rhent yn “trethadwy” os caiff ei ystyried wrth bennu’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chaffael y denantiaeth dal drosodd, neu i’r graddau y caiff ei ystyried mewn achos o’r fath.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Atod. 6 para. 8 applied in rhan (ynghyd â modifications) (1.4.2018) by S.I. 2018/126, rhl. 9A (as inserted by Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2018 (O.S. 2018/401), rhlau. 1(2), 2)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3