ATODLEN 6LESOEDD
RHAN 3RHENT A CHYDNABYDDIAETH ARALL
I1I29Rhent
1
At ddibenion y Ddeddf hon, mae un swm y mynegir ei fod yn daladwy mewn cysylltiad â rhent a materion eraill ond nas dosrannwyd i’w drin yn gyfan gwbl fel rhent.
2
Nid yw is-baragraff (1) yn cael effaith ar gymhwyso paragraff 4 o Atodlen 4 (cydnabyddiaeth drethadwy: dosrannu teg a rhesymol) pan fynegir bod symiau ar wahân yn daladwy mewn cysylltiad â rhent a materion eraill.
3
At ddibenion y Ddeddf hon, nid yw “rhent” yn cynnwys unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi les sy’n daladwy mewn cysylltiad â chyfnod cyn rhoi’r les.