xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 6LL+CLESOEDD

RHAN 5LL+CCYFRIFO’R DRETH SYDD I’W CHODI

Lesoedd preswyl, lesoedd amhreswyl a lesoedd cymysgLL+C

26At ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon, mae trafodiad—

(a)yn gaffael les breswyl—

(i)os yw’n gaffael les neu fuddiant trethadwy arall sy’n berthnasol i les, y mae ei phrif destun yn gyfan gwbl ar ffurf eiddo preswyl, neu

(ii)pan fo’r caffaeliad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, os yw prif destun pob trafodiad yn gyfan gwbl ar ffurf eiddo preswyl;

(b)yn gaffael les amhreswyl—

(i)os yw’n gaffael les neu fuddiant trethadwy arall sy’n berthnasol i les, y mae ei phrif destun yn gyfan gwbl ar ffurf tir nad yw’n eiddo preswyl, neu

(ii)pan fo’r caffaeliad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, os yw prif destun pob trafodiad yn gyfan gwbl ar ffurf tir nad yw’n eiddo preswyl;

(c)yn gaffael les gymysg—

(i)os yw’n gaffael les neu fuddiant trethadwy arall sy’n berthnasol i les, y mae ei phrif destun yn cynnwys tir nad yw’n eiddo preswyl, neu

(ii)pan fo’r caffaeliad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, os yw prif destun unrhyw un neu ragor o’r trafodiadau yn cynnwys tir nad yw’n eiddo preswyl.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 6 para. 26 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Dim treth i’w chodi mewn cysylltiad â rhent: lesoedd preswylLL+C

27(1)Yn achos caffael les breswyl, nid oes treth i’w chodi mewn cysylltiad â hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r paragraff hwn drwy reoliadau er mwyn rhoi, yn lle is-baragraff (1), gyfrifiad o’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent yn achos caffael les breswyl.

(3)O ran rheoliadau o dan is-baragraff (2)—

(a)rhaid iddynt bennu’r dull cyfrifo (gan gynnwys y dull sy’n gymwys i achos pan fo’r caffaeliad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol y mae pob un ohonynt yn achos o gaffael les breswyl), a

(b)cânt wneud unrhyw addasiadau cysylltiedig, atodol neu ganlyniadol eraill i unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon) sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru.

(4)Os gwneir rheoliadau o dan is-baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau bennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band sy’n gymwys i’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent.

(5)Rhaid i reoliadau o dan is-baragraff (4) bennu—

(a)band treth y mae’r gyfradd dreth gymwys ar ei gyfer yn 0% (“band cyfradd sero LP”),

(b)dau fand treth neu ragor uwchlaw’r band cyfradd sero LP,

(c)y gyfradd dreth ar gyfer pob band uwchlaw’r band cyfradd sero LP fel bod y gyfradd ar gyfer pob band yn uwch na’r gyfradd ar gyfer y band oddi tano, a

(d)dyddiad y mae’r bandiau treth a’r cyfraddau treth yn gymwys mewn perthynas â thrafodiadau sy’n cael effaith ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

(6)Caiff rheoliadau o dan is-baragraff (4) bennu—

(a)bandiau treth a chyfraddau treth gwahanol mewn cysylltiad â gwahanol gategorïau o gaffael les breswyl;

(b)dyddiadau gwahanol o dan is-baragraff (5)(d) mewn cysylltiad â phob band treth penodedig neu gyfradd dreth benodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 6 para. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 6 para. 27 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cyfraddau treth a bandiau treth: elfen rhent lesoedd amhreswyl a lesoedd cymysgLL+C

28(1)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau bennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band sy’n gymwys i gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent mewn achosion o gaffael les amhreswyl neu les gymysg.

(2)Rhaid i reoliadau o dan is-baragraff (1) bennu—

(a)band treth y mae’r gyfradd dreth gymwys ar ei gyfer yn 0% (“band cyfradd sero LA”),

(b)dau fand treth neu ragor uwchlaw’r band cyfradd sero LA,

(c)y gyfradd dreth ar gyfer pob band uwchlaw’r band cyfradd sero LA fel bod y gyfradd ar gyfer pob band yn uwch na’r gyfradd ar gyfer y band oddi tano, a

(d)dyddiad y mae’r bandiau treth a’r cyfraddau treth yn gymwys mewn perthynas â thrafodiadau sy’n cael effaith ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-baragraff (1) bennu—

(a)bandiau treth a chyfraddau treth gwahanol mewn cysylltiad â gwahanol gategorïau o gaffael les amhreswyl neu les gymysg;

(b)dyddiadau gwahanol o dan is-baragraff (2)(d) mewn cysylltiad â phob band treth penodedig neu gyfradd dreth benodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 6 para. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 6 para. 28 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/953, ergl. 2(g)(i)

Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhent: lesoedd amhreswyl a lesoedd cymysgLL+C

29Yn achos caffael les amhreswyl neu les gymysg, mae swm y dreth sydd i’w godi ar hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent i’w gyfrifo fel a ganlyn (oni bai bod paragraff 30 (trafodiadau cysylltiol) yn gymwys).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 6 para. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I8Atod. 6 para. 29 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhent: trafodiadau cysylltiolLL+C

30Pan fo caffael les amhreswyl neu les gymysg yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol y mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar eu cyfer ar ffurf rhent neu’n cynnwys rhent, mae swm y dreth sydd i’w godi mewn cyswllt â’r rhent i’w gyfrifo fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 6 para. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I10Atod. 6 para. 30 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Gwerth net presennolLL+C

31Cyfrifir GNP y rhent sy’n daladwy yn ystod cyfnod les drwy gymhwyso’r fformiwla a ganlyn—

Ffigwr 8

pan fo—

  • rhi y rhent sy’n daladwy ar gyfer blwyddyn i,

  • i y flwyddyn gyntaf, yr ail flwyddyn, y drydedd flwyddyn etc. o gyfnod y les,

  • n yn gyfnod y les, a

  • A y gyfradd disgownt amser (gweler paragraff 32).

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 6 para. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I12Atod. 6 para. 31 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Y gyfradd disgownt amserLL+C

32At ddibenion paragraff 31 y “gyfradd disgownt amser” yw 3.5% neu unrhyw gyfradd arall y caiff Gweinidogion Cymru ei phennu drwy reoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 6 para. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I14Atod. 6 para. 32 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Treth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ar wahân i rent: cyffredinolLL+C

33(1)Pan fo cydnabyddaeth drethadwy ar wahân i rent yn achos caffael les, mae darpariaethau’r Ddeddf hon yn gymwys mewn perthynas â’r gydnabyddaeth honno fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chydnabyddiaeth drethadwy arall (ond gweler paragraffau 34 a 35).

(2)Mae treth sydd i’w chodi o dan y Rhan hon o’r Atodlen hon mewn cysylltiad â rhent yn ychwanegol at unrhyw dreth sydd i’w chodi o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Ddeddf hon mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ar wahân i rent.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 6 para. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I16Atod. 6 para. 33 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Treth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ar wahân i rent: dim band cyfradd sero ar gyfer lesoedd amhreswylLL+C

34(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn achos caffael les amhreswyl pan fo—

(a)cydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent, a

(b)adran 27 (swm y dreth sydd i’w godi: trafodiadau nad ydynt yn gysylltiol) neu 28 (swm y dreth sydd i’w godi: trafodiadau cysylltiol) yn gymwys i’r caffaeliad.

(2)Os y swm penodedig o leiaf yw’r rhent perthnasol, nid yw’r band cyfradd sero yn gymwys mewn perthynas â’r gydnabyddiaeth ar wahân i rent ac felly, caiff unrhyw achos a fyddai wedi bod o fewn y band hwnnw ei drin fel pe bai o fewn y band treth nesaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 6 para. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I18Atod. 6 para. 34 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Treth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ar wahân i rent: lesoedd cymysgLL+C

35(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn achos caffael les gymysg pan fo—

(a)cydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent, a

(b)y rhent perthnasol sydd i’w briodoli i’r tir nad yw’n eiddo preswyl, ar sail dosraniad teg a rhesymol, yn cyfateb i’r swm penodedig o leiaf.

(2)At ddibenion pennu swm y dreth sydd i’w godi mewn perthynas â’r gydnabyddiaeth ar wahân i rent, caiff y trafodiad (neu os yw’n un o gyfres o drafodiadau cysylltiol, y set honno o drafodiadau) ei drin (neu ei thrin) fel pe bai’n ddau drafodiad ar wahân ond cysylltiol (neu’n ddwy set ar wahân o drafodiadau cysylltiol sydd eu hunain yn gysylltiol) sef—

(a)un y mae ei destun yn cynnwys yr holl dir sy’n eiddo preswyl (ac mae adran 28 (swm y dreth sydd i’w godi: trafodiadau cysylltiol) yn gymwys yn unol â hynny), a

(b)un y mae ei destun yn cynnwys yr holl dir nad yw’n eiddo preswyl (ac mae’r adran honno fel y’i diwygiwyd gan baragraff 34 yn gymwys yn unol â hynny).

(3)At y diben hwnnw, y gydnabyddiaeth drethadwy sydd i’w phriodoli i bob un o’r trafodiadau (neu setiau o drafodiadau cysylltiol) ar wahân hynny yw’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd i’w phriodoli ar sail deg a rhesymol.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 6 para. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I20Atod. 6 para. 35 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Y rhent perthnasolLL+C

36(1)Ym mharagraffau 34 a 35—

(a)ystyr “y rhent perthnasol” yw—

(i)y rhent blynyddol mewn perthynas â’r trafodiad o dan sylw, neu

(ii)os yw’r trafodiad hwnnw yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol y mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar eu cyfer yn rhent neu’n cynnwys rhent, cyfanswm y rhenti blynyddol mewn perthynas â’r holl drafodiadau hynny;

(b)ystyr “y swm penodedig” yw swm o rent perthnasol a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

(2)Yn is-baragraff (1)(a) ystyr “y rhent blynyddol” yw—

(a)y rhent blynyddol cyfartalog yn ystod cyfnod y les, neu

(b)os yw—

(i)symiau gwahanol o rent yn daladwy ar gyfer gwahanol rannau o’r cyfnod, a

(ii)y symiau hynny (neu unrhyw un neu ragor ohonynt) yn rhai y gellir eu canfod ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith,

y rhent blynyddol cyfartalog yn ystod y cyfnod y mae’r rhent uchaf y gellir ei ganfod yn daladwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 6 para. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I22Atod. 6 para. 36(1)(a)(2) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

I23Atod. 6 para. 36(1)(b) mewn grym ar 18.10.2017 at ddibenion penodedig gan O.S. 2017/953, ergl. 2(g)(ii)

I24Atod. 6 para. 36(1)(b) mewn grym ar 1.4.2018 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Pŵer i ddiwygio neu ddiddymu paragraffau 34 i 36LL+C

37Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio neu ddiddymu paragraffau 34 i 36.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 6 para. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I26Atod. 6 para. 37 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3