ATODLEN 7PARTNERIAETHAU

RHAN 3TRAFODIADAU CYFFREDIN GAN BARTNERIAETH

I1I211Rhwymedigaeth partneriaid cyfrifol ar y cyd ac yn unigol

1

Pan fo rhwymedigaeth ar y partneriaid cyfrifol i dalu—

a

treth neu log taliadau hwyr ar y dreth honno,

b

swm o dan adran 55 o DCRhT (adennill ad-daliad gormodol) neu log taliadau hwyr ar y swm hwnnw, neu

c

cosb o dan Ran 5 o DCRhT neu log taliadau hwyr ar y gosb honno,

mae’r rhwymedigaeth yn rhwymedigaeth i’r partneriaid hynny ar y cyd ac yn unigol.

2

Ni chaniateir adennill unrhyw swm o dan is-baragraff (1)(a) neu (b) gan berson na ddaeth yn bartner cyfrifol hyd ar ôl y dyddiad yr oedd y trafodiad y mae treth yn daladwy mewn perthynas ag ef yn cael effaith.

3

Ni chaniateir adennill unrhyw swm o dan is-baragraff (1)(c) gan berson na ddaeth yn bartner hyd ar ôl yr adeg berthnasol.

4

Yr adeg berthnasol—

a

mewn perthynas â hynny o gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod, neu â llog taliadau hwyr ar hynny o gosb sy’n daladwy felly, yw dechrau’r diwrnod hwnnw;

b

mewn perthynas ag unrhyw gosb arall, neu log taliadau hwyr ar y gosb, yw’r adeg y digwyddodd y weithred neu’r anwaith a achosodd i’r gosb ddod yn daladwy.

5

Yn y paragraff hwn, ystyr “llog taliadau hwyr” yw llog taliadau hwyr o dan Ran 6 o DCRhT.