14Pennir swm y cyfrannau is mewn perthynas â thrafodiad y mae paragraff 13 yn gymwys iddo fel a ganlyn—
Cam 1
Nodi’r perchennog neu’r perchnogion perthnasol (gweler paragraff 15).
Cam 2
Ar gyfer pob perchennog perthnasol, nodi’r partner neu’r partneriaid cyfatebol (gweler paragraff 16).
Os nad oes gan unrhyw berchennog perthnasol bartner cyfatebol, swm y cyfrannau is yw sero.
Cam 3
Ar gyfer pob perchennog perthnasol, canfod y gyfran o’r buddiant trethadwy yr oedd gan y perchennog hawl iddi yn union cyn y trafodiad.
Dosrannu’r gyfran honno rhwng unrhyw un neu ragor o bartneriaid cyfatebol y perchennog perthnasol.
Cam 4
Canfod yr isaf o’r canlynol (“y gyfran is”) ar gyfer pob partner cyfatebol—
y gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i’r partner (gweler paragraff 17);
cyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth yn union ar ôl y trafodiad.
Cam 5
Adio cyfrannau is pob partner cyfatebol.
Y canlyniad yw swm y cyfrannau is.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 7 para. 14 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3