Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Partner cyfatebolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

16(1)At ddibenion paragraff 14 (gweler Cam 2), mae person yn bartner cyfatebol mewn perthynas â pherchennog perthnasol os, yn union ar ôl y trafodiad—

(a)yw’r person yn bartner, a

(b)y person yw’r perchennog perthnasol neu os yw’n unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol.

(2)At ddiben is-baragraff (1)(b), mae cwmni i’w drin fel unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol—

(a)os yw’n dal eiddo fel ymddiriedolwr, a

(b)os nad yw ond yn gysylltiedig â’r perchennog perthnasol oherwydd adran 1122(6) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (fel y mae’n cael effaith gan hepgor is-adran (6)(c) i (e)).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 7 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 7 para. 16 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3