xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 7LL+CPARTNERIAETHAU

RHAN 4LL+CTRAFODIADAU SY’N YMWNEUD Â THROSGLWYDDIADAU I BARTNERIAETH

Cyfran o fuddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebolLL+C

17At ddibenion paragraff 14 (gweler Cam 4), y gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebol—

(a)os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas ag un perchennog perthnasol yn unig, yw’r gyfran (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy a ddosrannwyd i’r partner hwnnw (yng Ngham 3) mewn cysylltiad â’r perchennog hwnnw;

(b)os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas â mwy nag un perchennog perthnasol, yw swm y cyfrannau (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy a ddosrannwyd i’r partner hwnnw (yng Ngham 3) mewn cysylltiad â phob un o’r perchnogion hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 7 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 7 para. 17 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3