xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 7LL+CPARTNERIAETHAU

RHAN 5LL+CTRAFODIADAU SY’N YMWNEUD Â THROSGLWYDDIADAU O BARTNERIAETH

Perchennog perthnasolLL+C

23(1)At ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 1), mae person yn berchennog perthnasol—

(a)os oes gan y person, yn union ar ôl y trafodiad, hawl i gyfran o’r buddiant trethadwy, a

(b)os oedd y person, yn union cyn y trafodiad, yn bartner neu’n gysylltiedig â phartner.

(2)At ddibenion paragraff 22 a’r paragraff hwn, cymerir bod gan bersonau sydd â hawl i fuddiant trethadwy fel cyd-denantiaid llesiannol hawl i’r buddiant trethadwy fel tenantiaid ar y cyd llesiannol mewn cyfrannau cyfartal.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 7 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 7 para. 23 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3