ATODLEN 7PARTNERIAETHAU
RHAN 5TRAFODIADAU SY’N YMWNEUD Â THROSGLWYDDIADAU O BARTNERIAETH
I1I227Cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i bartner cyfatebol: dyddiad yr oedd trosglwyddiad yn cael effaith ar 20 Hydref 2003 neu wedi hynny
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys at ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 4) pan fo’r dyddiad yr oedd trosglwyddiad y buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth yn cael effaith ar 20 Hydref 2003 neu wedi hynny.
2
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys ac nad yw’r naill na’r llall o’r amodau yn is-baragraff (3) wedi eu bodloni, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.
3
Yr amodau yw—
a
bod yr offeryn a oedd yn rhoi effaith i’r trosglwyddiad wedi ei stampio â threth stamp ad valorem;
b
bod unrhyw dreth trafodiadau tir neu, yn ôl y digwydd, dreth dir y dreth stamp sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad wedi ei thalu.
4
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, a bod un o’r amodau yn is-baragraff (3) wedi ei fodloni, pennir y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner fel a ganlyn—
Cam 1
Canfod cyfranddaliad gwirioneddol y partner yn y bartneriaeth ar y dyddiad perthnasol.
Y dyddiad perthnasol—
- a
os oedd y partner yn bartner ar y dyddiad yr oedd trosglwyddiad y buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth yn cael effaith, yw’r dyddiad hwnnw;
- b
os daeth y partner yn bartner ar ôl y dyddiad hwnnw, yw’r dyddiad y daeth y partner yn bartner.
- a
Cam 2
Ychwanegu at y cyfranddaliad hwnnw yn y bartneriaeth unrhyw gynnydd yng nghyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth—
- a
sy’n digwydd yn y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo, a
- b
sy’n cyfrif at y diben hwn (gweler is-baragraff (7)).
Y canlyniad yw’r cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth.
- a
Cam 3
Didynnu o’r cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth unrhyw ostyngiadau yng nghyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth sy’n digwydd yn y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo.
Y canlyniad yw’r cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner.
5
Os effaith cymhwyso Cam 3 fyddai gostwng y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner islaw sero, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.
6
Os peidiodd y partner â bod yn bartner cyn y dyddiad yr oedd trosglwyddiad y buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth yn cael effaith, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.
7
Nid yw cynnydd yn cyfrif at ddibenion Cam 2 onid yw—
a
pan ddigwyddodd y trosglwyddiad a arweiniodd at y cynnydd ar 22 Gorffennaf 2004 neu cyn hynny, yr offeryn a oedd yn rhoi effaith i’r trosglwyddiad wedi ei stampio â threth stamp ad valorem;
b
pan ddigwyddodd y trosglwyddiad a arweiniodd at y cynnydd ar ôl y dyddiad hwnnw, unrhyw dreth trafodiadau tir neu, yn ôl y digwydd, dreth dir y dreth stamp sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad wedi ei thalu.