ATODLEN 7PARTNERIAETHAU
RHAN 6TRAFODIADAU ERAILL SY’N YMWNEUD Â PHARTNERIAETHAU
I1I230Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth a ffurfir yn llwyr gan gyrff corfforaethol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
pan geir trafodiad y mae paragraff 21 yn gymwys iddo;
b
pan fo, yn union cyn y trafodiad, yr holl bartneriaid yn gyrff corfforaethol;
c
pan fo swm y cyfrannau is yn 75 neu’n fwy.
2
Mae paragraffau 21 ac 31 yn cael effaith gyda’r addasiadau a ganlyn.
3
Mae paragraff 21 yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-baragraffau (2) a (3)—
2
Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn hafal i werth marchnadol y buddiant a drosglwyddir.
4
Mae paragraff 31(2) yn cael effaith fel pe bai “is-baragraff (5)” wedi ei roi yn lle “is-baragraffau (3) i (6)”.
5
Mae paragraff 31 yn cael effaith fel pe bai is-baragraffau (3), (4), (6) a (7) wedi eu hepgor.