ATODLEN 7PARTNERIAETHAU
RHAN 8TROSGLWYDDIADAU SY’N YMWNEUD Â PHARTNERIAETHAU BUDDSODDI MEWN EIDDO
I1I234Trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
pan drosglwyddir buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo, a
b
pan fo eiddo perthnasol y bartneriaeth yn cynnwys buddiant trethadwy.
2
At ddibenion y Ddeddf hon—
a
cymerir bod y trosglwyddiad yn drafodiad tir, a
b
mae’r trosglwyddiad yn drafodiad trethadwy.
3
Y prynwr yn y trafodiad yw’r person sy’n caffael cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth neu, yn ôl y digwydd, sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad.
4
Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn hafal i gyfran o werth marchnadol eiddo perthnasol y bartneriaeth.
5
Y gyfran honno—
a
os nad oedd y person sy’n caffael y buddiant yn y bartneriaeth yn bartner cyn y trosglwyddiad, yw cyfranddaliad y person yn y bartneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad;
b
os oedd y person yn bartner cyn y trosglwyddiad, yw’r gwahaniaeth rhwng cyfranddaliad y person hwnnw yn y bartneriaeth cyn y trosglwyddiad ac ar ei ôl.
6
Ystyr “eiddo perthnasol y bartneriaeth”, mewn perthynas â throsglwyddiad Math A o fuddiant mewn partneriaeth, yw pob buddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad, ac eithrio—
a
unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad,
b
les y mae paragraff 35 (eithrio lesoedd rhent marchnadol) yn gymwys iddi, ac
c
unrhyw fuddiant trethadwy nad yw i’w briodoli yn economaidd i’r buddiant yn y bartneriaeth a drosglwyddir.
7
Ystyr “eiddo perthnasol y bartneriaeth”, mewn perthynas â throsglwyddiad Math B o fuddiant mewn partneriaeth, yw pob buddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad, ac eithrio—
a
unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad,
b
les y mae paragraff 35 (eithrio lesoedd rhent marchnadol) yn gymwys iddi,
c
unrhyw fuddiant trethadwy nad yw i’w briodoli yn economaidd i’r buddiant yn y bartneriaeth a drosglwyddir,
d
unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth ar 22 Gorffennaf 2004 neu cyn hynny,
e
unrhyw fuddiant trethadwy y gwnaed dewis yn ei gylch o dan baragraff 36, mewn cysylltiad â’i drosglwyddiad i’r bartneriaeth, ac
f
unrhyw fuddiant trethadwy arall nad oedd ei drosglwyddiad i’r bartneriaeth o fewn paragraff 13(1).
8
Ystyr trosglwyddiad Math A yw—
a
trosglwyddiad sydd ar ffurf trefniadau yr ymrwymir iddynt pan fo, oddi tanynt—
i
holl fuddiant partner fel partner, neu ran ohono, yn cael ei gaffael gan berson arall (a gaiff fod yn bartner presennol), a
ii
cydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol yn cael ei rhoi gan y person sy’n caffael y buddiant, neu ar ei ran, neu
b
trosglwyddiad sydd ar ffurf trefniadau yr ymrwymir iddynt pan fo, oddi tanynt—
i
person yn dod yn bartner,
ii
buddiant partner presennol yn y bartneriaeth yn cael ei ostwng neu bartner presennol yn peidio â bod yn bartner, a
iii
arian neu gyfwerth ariannol yn cael ei dynnu o’r bartneriaeth gan y partner presennol a grybwyllir ym mharagraff (ii) (ac eithrio arian neu gyfwerth ariannol a dalwyd o’r adnoddau a oedd ar gael i’r bartneriaeth cyn y trosglwyddiad).
9
Mae unrhyw drosglwyddiad arall y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn drosglwyddiad Math B.
10
Mae buddiant mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo i’w drin fel buddiant trethadwy at ddibenion paragraff 8(2) o Atodlen 16 (rhyddhad grŵp) i’r graddau y bo eiddo perthnasol y bartneriaeth yn fuddiant trethadwy.