ATODLEN 7PARTNERIAETHAU
RHAN 8TROSGLWYDDIADAU SY’N YMWNEUD Â PHARTNERIAETHAU BUDDSODDI MEWN EIDDO
I1I235Eithrio lesoedd rhent marchnadol
1
Nid yw les a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl trosglwyddo buddiant yn y bartneriaeth yn eiddo perthnasol y bartneriaeth at ddibenion paragraff 34(6) na (7) os bodlonir y pedwar amod a ganlyn.
2
Amod 1 yw—
a
nad oes unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent wedi ei rhoi mewn cysylltiad â rhoi’r les, a
b
nad oes unrhyw drefniadau yn eu lle ar adeg y trosglwyddiad i unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent gael ei rhoi mewn cysylltiad â rhoi’r les.
3
Amod 2 yw bod y rhent sy’n daladwy o dan y les fel y’i rhoddwyd yn rhent marchnadol ar adeg rhoi’r les.
4
Amod 3 yw—
a
bod cyfnod y les yn 5 mlynedd neu lai, neu
b
os yw cyfnod y les yn fwy na 5 mlynedd—
i
bod y les yn darparu y bydd y rhent sy’n daladwy oddi tani yn cael ei adolygu o leiaf unwaith ym mhob 5 mlynedd o’r cyfnod, a
ii
ei bod yn ofynnol i’r rhent sy’n daladwy o dan y les o ganlyniad i adolygiad fod yn rent marchnadol ar y dyddiad adolygu.
5
Amod 4 yw na chafwyd unrhyw newid i’r les ers iddi gael ei rhoi sy’n golygu, yn union ar ôl i’r newid gael effaith, fod y rhent sy’n daladwy o dan y les yn llai na rhent marchnadol.
6
Rhent marchnadol les ar unrhyw adeg yw’r rhent y gellid disgwyl yn rhesymol i’r les ei ddenu ar y farchnad agored ar yr adeg honno.
7
Dyddiad adolygu yw dyddiad y mae’r rhent a bennir o ganlyniad i adolygiad rhent yn daladwy ohono.