Eithrio lesoedd rhent marchnadolLL+C
35(1)Nid yw les a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl trosglwyddo buddiant yn y bartneriaeth yn eiddo perthnasol y bartneriaeth at ddibenion paragraff 34(6) na (7) os bodlonir y pedwar amod a ganlyn.
(2)Amod 1 yw—
(a)nad oes unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent wedi ei rhoi mewn cysylltiad â rhoi’r les, a
(b)nad oes unrhyw drefniadau yn eu lle ar adeg y trosglwyddiad i unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent gael ei rhoi mewn cysylltiad â rhoi’r les.
(3)Amod 2 yw bod y rhent sy’n daladwy o dan y les fel y’i rhoddwyd yn rhent marchnadol ar adeg rhoi’r les.
(4)Amod 3 yw—
(a)bod cyfnod y les yn 5 mlynedd neu lai, neu
(b)os yw cyfnod y les yn fwy na 5 mlynedd—
(i)bod y les yn darparu y bydd y rhent sy’n daladwy oddi tani yn cael ei adolygu o leiaf unwaith ym mhob 5 mlynedd o’r cyfnod, a
(ii)ei bod yn ofynnol i’r rhent sy’n daladwy o dan y les o ganlyniad i adolygiad fod yn rent marchnadol ar y dyddiad adolygu.
(5)Amod 4 yw na chafwyd unrhyw newid i’r les ers iddi gael ei rhoi sy’n golygu, yn union ar ôl i’r newid gael effaith, fod y rhent sy’n daladwy o dan y les yn llai na rhent marchnadol.
(6)Rhent marchnadol les ar unrhyw adeg yw’r rhent y gellid disgwyl yn rhesymol i’r les ei ddenu ar y farchnad agored ar yr adeg honno.
(7)Dyddiad adolygu yw dyddiad y mae’r rhent a bennir o ganlyniad i adolygiad rhent yn daladwy ohono.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 para. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 7 para. 35 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3