ATODLEN 7PARTNERIAETHAU
RHAN 9CYMHWYSO ESEMPTIADAU, RHYDDHADAU, DARPARIAETHAU DCRHT A DARPARIAETHAU HYSBYSU
I1I239Cymhwyso esemptiadau a rhyddhadau
1
Nid yw paragraff 1 o Atodlen 3 (esemptiad ar gyfer trafodiadau nad oes unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar eu cyfer) yn gymwys i drafodiadau y mae paragraffau 13, 18, 21 neu 34 yn gymwys iddynt.
2
Ond (yn ddarostyngedig i baragraffau 40 a 42) mae’r Atodlen hon yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth arall sy’n rhoi esemptiad neu ryddhad rhag treth.