ATODLEN 7PARTNERIAETHAU

RHAN 9CYMHWYSO ESEMPTIADAU, RHYDDHADAU, DARPARIAETHAU DCRHT A DARPARIAETHAU HYSBYSU

I1I240Cymhwyso rhyddhad grŵp

1

Mae Atodlen 16 (rhyddhad grŵp) yn gymwys i—

a

trafodiad y mae paragraff 13 yn gymwys iddo, a

b

trafodiad sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18,

gyda’r addasiadau a ganlyn.

2

Mae paragraff 8 yn cael effaith fel pe bai—

a

yn is-baragraff (2)(a), “pan fo partner a oedd yn bartner ar y dyddiad yr oedd y trafodiad a ryddheir yn cael effaith (“y partner perthnasol”)” yn cael ei roi yn lle “pan fo’r prynwr”;

b

y canlynol yn cael ei roi yn lle is-baragraff (2)(b)—

b

ar yr adeg y mae’r partner perthnasol yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr (“yr adeg berthnasol”), pan fo buddiant trethadwy yn cael ei ddal gan aelodau’r bartneriaeth neu ar eu rhan a bod y buddiant trethadwy hwnnw—

i

wedi ei gaffael gan y bartneriaeth neu ar ei rhan o dan y trafodiad a ryddheir, neu

ii

yn deillio o fuddiant trethadwy a gaffaelwyd felly,

ac nad yw wedi ei gaffael wedi hynny am ei werth marchnadol o dan drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad grŵp ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.

c

yn is-baragraff (4), “a ddelir gan neu ar ran y bartneriaeth ac i’r gyfran y mae gan y partner perthnasol hawl iddi ar yr adeg berthnasol wrth rannu elw incwm y bartneriaeth” yn cael ei roi yn lle’r geiriau o “y mae’r cwmni” hyd y diwedd;

d

yn is-baragraff (5), y diffiniad o “cwmni cyswllt perthnasol” wedi ei hepgor.

3

Mae paragraffau 9 i 14 yn cael effaith fel pe bai “y partner perthnasol” yn cael ei roi yn lle “y prynwr”(bob tro y mae’n digwydd).